Caffael cyhoeddus yng Nghymru - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Caffael Cyhoeddus yng Nghymru'.
"Mae'r Pwyllgor wedi bod yn pryderu am enghreifftiau diweddar o arfer caffael gwael ac mae'r adroddiad hwn yn pwysleisio'r swm sylweddol o arian a gaiff ei wario bob blwyddyn gan gyrff cyhoeddus drwy eu gweithgareddau caffael.
"Mae cyfleoedd amlwg i sicrhau gwell gwerth am arian, nid yn unig drwy osgoi arfer gwael, ond hefyd drwy fanteisio i'r eithaf ar fuddion ehangach o gontractau lle bo modd.
"Mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau y gallant fanteisio ar y sgiliau masnachol sydd eu hangen i reoli gweithgaredd caffael a allai fod yn gymhleth ac, er gwaethaf ychydig o fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, mae'n bryderus bod cyrff cyhoeddus yn dal i wynebu anawsterau o ran recriwtio a chadw'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
"Bydd y Pwyllgor yn ystyried y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn ac yn yr adroddiad ar wahân y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei baratoi am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol dros yr wythnosau nesaf."
Nodiadau i olygyddion
Mae'r adroddiad llawn 'Caffael Cyhoeddus yng Nghymru' ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Cymraeg